Ezra 1

Cyrus yn gadael i'r caethion fynd yn ôl

(2 Cronicl 36:22-23)

1Lai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia,
1:1 Lai na blwyddyn … frenin Persia 538 CC mae'n debyg. Roedd Cyrus wedi concro Babilon yn 539 CC
dyma'r Arglwydd yn gwneud beth wnaeth e addo trwy Jeremeia.
1:1 Jeremeia Proffwydodd Jeremeia y byddai pobl Israel yn cael eu rhyddhau o Babilon ar ôl saith deg mlynedd (gw. Jeremeia 25:11; 29:10).
Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad:

2“Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r Arglwydd, Duw y nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. 3Os ydych chi'n perthyn i'w bobl cewch fynd yn ôl i Jerwsalem i adeiladu teml yno i'r Arglwydd, Duw Israel – sef y duw sydd yn Jerwsalem. A Duw fyddo gyda chi! 4Dylai pawb arall, sy'n aros lle rydych chi, helpu'r rhai sy'n mynd yn ôl, drwy roi arian ac aur, cyfarpar ac anifeiliaid iddyn nhw. Hefyd offrymau gwirfoddol ar gyfer teml Dduw yn Jerwsalem.’”

Paratoi i ddod yn ôl o Babilon

5Felly dyma arweinwyr llwythau Jwda a Benjamin a'r offeiriaid a'r Lefiaid yn paratoi i fynd yn ôl – pawb oedd wedi eu hysbrydoli gan Dduw i fynd i adeiladu teml yr Arglwydd yn Jerwsalem. 6Ac roedd eu cymdogion i gyd yn eu helpu nhw, drwy roi llestri o arian ac aur iddyn nhw, cyfarpar, anifeiliaid, a lot fawr o anrhegion drud eraill, heb sôn am yr offrymau gwirfoddol.

7Yna dyma'r brenin Cyrus yn dod â'r holl lestri oedd Nebwchadnesar
1:7 Nebwchadnesar Nebwchadnesar II, oedd yn teyrnasu yn Babilon o 605 i 562 CC Yn 586 CC dinistriodd Jerwsalem a mynd â llawer o'r bobl yn gaeth i Babilon.
wedi eu cymryd o deml yr Arglwydd yn Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduw ei hun.
8Rhoddodd nhw i Mithredath, ei drysorydd, a'i gael i gyfri'r cwbl a'u cyflwyno i Sheshbatsar, pennaeth Jwda, 9Dyma'r rhestr o eitemau:

30 dysgl aur
1,000 o ddysglau arian
29 eitem arall o arian
30 powlen aur
410 o bowlenni arian gwahanol
1,000 o lestri eraill

11Felly cyfanswm y llestri aur ac arian oedd 5,400. Daeth Sheshbatsar â nhw i gyd i Jerwsalem pan ddaeth y caethion yn ôl o Babilon.

Copyright information for CYM